Canolfannau Byw'n Iach

Darparwyr cyfleusterau hamdden, chwaraeon a nofio ledled Gwynedd

Mae Byw’n Iach.cyf yn gwmni cyfyngedig trwy warant o dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Mae Byw’n Iach yn gweithredu cytundeb ar ran Cyngor Gwynedd i reoli 11 Canolfan Hamdden yn y sir a darparu ystod o wasanaethau chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Tocyn Teulu - Family Pass

Tocyn Diwrnod Teulu – Diwrnod Llawn Hwyl i’r Teulu Yr Haf Hwn!

Chwilio am ffordd wych o ychwanegu ychydig o ffitrwydd a hwyl at eich gwyliau yng Ngogledd Cymru? Mae’r Tocyn Diwrnod Teulu Byw’n Iach yn berffaith i chi!

Ar gael am £20.90, gall 2 oedolyn a hyd at 4 plentyn (0–15 oed) fwynhau diwrnod llawn o weithgareddau mewn unrhyw ganolfan Byw’n Iach ar draws Gwynedd.

Beth Sydd ar Gael?

•    Nofio Cyhoeddus*
•    Badminton
•    Tenis
•    Sboncen
•    Tenis Bwrdd
*Gall cyfleusterau amrywio rhwng canolfannau. Edrychwch ar y ganolfan agosaf i chi i gael y manylion llawn.

Safleoedd Gwersylla gyda’r Tocyn ar Gael

Os ydych yn aros mewn unrhyw un o'r safleoedd canlynol, mae gennych chi gyfle gwych!

Gallwch gasglu eich Tocyn Diwrnod Teulu yn y dderbynfa neu yn eich canolfan Byw’n Iach agosaf.

Safleoedd Gwersylla:

•    Hendre Mynach Caravan & Camping Park – Abermaw LL42 1YR
•    Woodlands Caravan Park – Harlech LL46 2UE
•    Hendre Coed Isaf – Abermaw LL42 1AJ
•    Hendre Hall Campsite – Llwyngwril LL37 2JF
•    Hafod Olau – Dolgellau LL40 1TR
•    Hafod Dywyll Campsite – Dolgellau LL40 1TR
•    Fferm Hendy – Tywyn LL36 9RU
•    Llwyn Du Holiday Park – Llwyngwril LL37 2JH

Defnyddiwch Eich Tocyn mewn unrhyw un o’r canolfannau Byw’n Iach

Sut i Ddefnyddio’r Tocyn:

1.    Gofynnwch yn nerbynfa’r safle gwersylla neu ewch yn syth i’ch canolfan Byw’n Iach agosaf.
2.    Talu £20.90 am y tocyn diwrnod llawn.
3.    Mwynhewch ddiwrnod llawn gweithgareddau, ffitrwydd a hwyl i’r teulu cyfan!

Am unrhyw fwy o wybodaeth ewch i www.bywniach.cymru neu anfonwch e-bost at cyswllt@bywniach.cymru.

Map Canolfannau Byw'n Iach Centres