Canolfan Pererin Mary Jones
Yn 1800, cerddodd merch ifanc 15 oed o’r enw Mary Jones 26 o Llanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu llyfr. Mae'r ganolfan yn dweud ei hanes, a stori ei hetifeddiaeth. Mae'n ganolfan ymwelwyr ac addysg o’r radd flaenaf sy’n adrodd stori Mary Jones a Thomas Charles, ac effaith y llyfr sy’n gwerthu orau yn y byd – ar Gymru ac ar y byd. Camwch yn ôl mewn amser, dilynwch daith Mary, ac archwiliwch beth ddigwyddodd wedyn drwy weithgareddau aml-gyfrwng a rhai rhyngweithiol, ac arddangosfeydd yn ein hadeilad rhestredig Gradd 2 sydd wedi cael ei ailddatblygu. Cewch gyfle i weld pot inc Thomas Charles a thalu ymweliad â’i fedd. Wedi ei leoli ar lan Llyn Tegid gyda man picnic, cyfleusterau a maes chwarae i blant.
Gwobrau
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Arhosfan bws gerllaw
- Disgownt i grwpiau
- Cyfleusterau plant
- Croesewir grwpiau