Caffi'r Eliffant
Enwyd y Caffi yng Nghanolfan y Fron ar ôl y Mynydd Mawr, mynydd ‘eliffant’, ac y mae’n arbenigo mewn gwneud brecwast, prydau plaen, cacennau, te a choffi. Mae prydau nos yn cael eu gweini trwy drefniant. Mae’r Caffi yn lle gwych i gerddwyr aros ar eu ffordd ar Lwybr Pererinion Gogledd Cymru neu Lwybr Llechi Eryri, neu seiclwyr yn dringo i fyny at y pentref. Mae croeso i gŵn ar dennyn os ydynt yn byhafio! Mae’r golygfeydd o’r Caffi o Grib Nantlle ar draws y dyffryn yn newid yn gyson, ac yn werth eu gweld ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ceir llety grŵp o safon yng Nghanolfan y Fron gyda darpariaeth ar gyfer 18 person mewn 4 ystafell.
Gwobrau
Mwynderau
- Parcio am ddim
- WiFi am ddim
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
- Derbynnir Cŵn
- Llwybr cerdded gerllaw