Caernarfon
Tref sirol Gwynedd, cartref castell mwyaf enwog Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Castell godidog Caernarfon sy’n mynd a’r rhan fwyaf o’r sylw ond mae’n werth ymweld â strydoedd cul y dref a'r datblygiadau newydd chwaethus ar lan y dŵr. Roedd y castell, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Edward y Cyntaf fel palas brenhinol a chaer filwrol, yn ganolbwynt i dref gaerog ganoloesol. Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl yma hefyd – 1000 o flynyddoedd ynghynt adeiladont Gaer Segontium ar y bryn uwchlaw (mae'r sylfeini yno hyd heddiw). Adroddir hanes y dref mewn arddangosfa yn Oriel Pendeitsh fel rhan o’r prosiect Ein Treftadaeth (mae yna hefyd wybodaeth am Dywysogion Gwynedd). Mae’r atyniadau eraill yn cynnwys Rheilffordd Ucheldir Cymru (sy’n rhedeg am 25 milltir i Borthmadog), Canolfan Hwylfan a llwybr beic Lôn Eifion. Mae Doc Fictoria ar lan y Fenai yn gartref i Galeri (canolfan celfyddyd gyfoes gyda theatr a sinema). Mae Archifdy Caernarfon yn cadw archifau o Wynedd (dogfennau, delweddau, mapiau a phapurau newydd) sy'n mynd yn ôl 400 mlynedd. Cartref Kate Roberts 'brenhines ein llên' oedd Cae’r Gors sydd yn Rhosgadfan gerllaw.
Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Caernarfon yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map
Siopau a chynnyrch lleol: Rhestr I Map