Bwthyn Plas Hafod
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Wedi ei adeiladu yn 1800au mae Plas Hafod wedi cael ei adnewyddu yn ofalus a meddylgar, mae wedi cael ei addasu a’i ddodrefnu i safon uchel iawn. Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn safle arbennig allan yn y wlad a mae’n llawn cymeriad. Mae’n leoliad gwych a rhamantus i gwpl sydd yn chwilio am rhywle tawel i fynd ar wyliau tra ar yr un pryd yn leoliad delfrydol i rhywun sydd eisiau mynd i gerdded/dringo neu feicio yn ardal Eryri a thu hwnt. Mae hefyd yn leoliad arbennig i deulu neu ffrindiau sydd eisiau mwynhau bod allan yn y wlad yn gwylio a gwerthfawrogi bywyd gwyllt a natur ar ei orau.
Mae’r Bwthyn bach yn ardal Nebo, sef pentref bach tawel yn Nyffryn Nantlle sydd wedi ei leoli ar ffiniau y Parc Cenedlaethol. I gerddwyr/dringwyr mae’n leoliad arbennig o hwylus gan fod bosib cychwyn eich taith gerdded i fyny Crib Nantlle yn syth o giât y Bwthyn bron. Mae gan Plas Hafod wobr lefel arian ar gyfer cynllun Llysgennad Gwynedd, a gwobr lefel aur ar gyfer cynllun Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri.
Mwynderau
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Peiriant golchi ar y safle
- Dim Ysmygu
- Siaradir Cymraeg
- Llofft llawr gwaelod
- Croesewir teuluoedd
- WiFi am ddim
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Traeth gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw