Borthwnog Hall
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Mae Borthwnog Hall wedi'i leoli yng nghanol golygfeydd ysblennydd a syfrdanol, yn darparu llety a lletygarwch o safon uchel i'r rhai sy'n gwerthfawrogi heddwch a thawelwch. Mae llawer o nodweddion mewnol yr adeilad rhestredig Gradd 2 hwn yn dyddio o gyfnod y Rhaglywiaeth, ac mae gan yr ystafelloedd nenfydau uchel gyda'r cornio gwreiddiol, ac wedi'u dodrefnu â chyfuniad unigryw o ddodrefn traddodiadol a darnau mwy cyfoes o bedwar ban byd. Mae gan yr ystafelloedd sydd â golygfa dros yr aber ffenestri o'r llawr i'r nenfwd a balconi, gyda golygfeydd ar draws yr afon i Lyn Penmaen a mynyddoedd Cader y tu ôl, a thu hwnt i'r môr agored ym mae Ceredigion i'r gorllewin.
Y tu ôl i'r brif dŷ, mae bwthyn carreg hunangynhwysol, llety gweision yn wreiddiol, sy'n cysgu chwech. Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i safon uchel iawn, ac mae'n gynnes, clyd a chroesawgar.