Blaenau Ffestiniog
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyn ‘brifddinas llechi’r byd’ wedi dod yn un o’r canolfannau gweithgareddau mwyaf blaengar yng ngogledd Cymru ond dyma’r amser gorau erioed i fentro yma, yn dilyn y newyddion gwych bod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi'i dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae'n ymuno â'r tri Safle Treftadaeth y Byd arall yng Nghymru, ynghyd â lleoedd ledled y byd megis y Taj Mahal, Côr y Cewri, Machu Picchu, y Pyramidiau, y Ceunant Mawr a'r Barriff Mawr.
Bellach, mae’r tomen llechi sy’n amlwg ar y mynyddoedd serth yn gartref i feicwyr mynydd a gwibwyr y weiren wib, ac o dan y ddaear mae’r ceudyllau hanesyddol nawr yn gartref i drampolîn tanddaearol cyntaf y byd a hyd yn oed fwy o weiren wib.
Ond i ddechrau yn y dechrau. I gael golwg ar yr hanes, beth am fynd ar daith dywys Fictorianaidd o amgylch chwarel Llechwedd i ddysgu mwy am y diwydiant a roddodd ‘lechi ar y byd’, profiad tanddaearol sydd wedi ei wella a’i ddiwygio yn ddiweddar.
Yn yr un safle mae Bounce Below lle mae posib chwarae, rowlio, neidio a bownsio o net i net mewn ceudyllau maint eglwys gadeiriol! Yn Zip World Caverns cewch daith danddaearol epig yn y ceudyllau wrth sipio ar hyd weiren o wal i wal, croesi pontydd rhaffau a mynd ar eich pedwar drwy dwneli a golff tanddearol. Mae Zip World Titan yn atyniad arall sydd rhoi profiad unigryw iawn i chi. Mae posib sipio lawr y weiren wib mewn grŵp ym mharth sipio mwyaf Ewrop.
Mae llwybrau beicio lawr mynydd Antur Stiniog yn rhoi sialens wahanol i chi ac mae eu cynnig yn datblygu drwy’r amser felly dim angen bod yn arbenigwr cyn mentro. Mae'n lle gwych i wylio adar. Ar y copaon uwch ceir cigfrain, peraroglau, bwncath a hyd yn oed frân goesgoch elusengar, sy'n aderyn pur brin yn y rhan fwyaf o Brydain.
Os yn chwilio am lety a phethau i'w wneud o gwmpas Blaenau Ffestiniog yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map