Beddgelert
Mae pawb wrth eu bodd â Beddgelert – a’i leoliad i’w chwennych. Mae’r pentref prydferth hwn a’i adeiladau carreg yn ganolfan ddelfrydol i ymweld â phrif fannau Eryri a'r mannau prydferth - Bwlch Aberglaslyn i'r de, Nant Gwynant i'r dwyrain a'r Wyddfa i'r gogledd. Mae Rhyd Ddu sydd gerllaw wedi ei gysylltu gan lwybr cerdded/beicio yn fan da i gychwyn cerdded i fynd i gopa'r Wyddfa. Gallwch hyd yn oed fynd dan ddaear yng ngwaith Copr Sygun, sydd hefyd gerllaw. Mae hwn yn atyniad poblogaidd i’r teulu gyda chyfleusterau uwchben y ddaear hefyd, yn cynnwys man chwarae antur i blant a chastell gwynt newydd. Mae Stad Craflwyn (canolfan gynadleddau, gweithgarwch a diddordeb arbennig) sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyferbyn â Sygun ar y ffordd i Nant Gwynant. Mae’r pentref yn un o’r pwyntiau codi a gollwng ar Reilffordd Ucheldir Cymru sy’n ymestyn o Gaernarfon i Borthmadog.