Bangor, Caernarfon, Llanberis a Phentrefi Eryri
Pa mor uchel ydych chi eisiau bod? Yr Wyddfa sy’n cyrraedd y brig, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n sefyll ar ei phen ei hun ychwaith. Yr Wyddfa yw canolbwynt ein Mynyddoedd Creigiog (Rocky Mountains) ni, sy'n cynnwys 14 o gopaon sydd dros 3000 troedfedd, y’u gelwir yn 'Uwch fynyddoedd Cymru'. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn un am uchder. Mae yna ddyffrynnoedd coediog, afonydd brysiog a llynnoedd mynydd hefyd, gydag arfordir deniadol ar hyd y Fenai a’r fynedfa ogleddol i Ben Llŷn.
Abergwyngregyn
Fe’i hadwaenir hefyd fel 'Aber'. Pentref hardd, ger Bangor, wrth fynedfa dyffryn coediog prydferth a Rhaeadr Fawr, y rhaeadr naturiol uchaf yng Nghymru. Mae Gwarchodfa Natur Arfordirol Traeth Lafan gerllaw.
Bangor
Dinas fechan ond bywiog a thref phrifysgol. Mae gan Gadeirlan Bangor wreiddiau hynafol – gellir olrhain y safle crefyddol hwn yn ôl i’r chweched ganrif. Caiff gwaith celf a chreiriau lleol eu harddangos yn Storiel. Mae yma nifer o gyfleusterau hamdden, gan gynnwys pwll, Canolfan Chwarae a phier, ble y gallwch fwynhau blasu un o'r danteithion lleol, te a sgonsen ffres. Mae yma siopau da hefyd (i lawr Stryd Fawr hiraf Cymru yn ôl y sôn), wedi’u hatgyfnerthu gan Ganolfan Menai. Peidiwch â methu Castell Penrhyn, plasty dramatig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn gerddi prydferth y tu allan i'r ddinas.
Beddgelert
Bethesda
Caernarfon
Tref sirol Gwynedd, cartref castell mwyaf enwog Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Castell godidog Caernarfon sy’n mynd a’r rhan fwyaf o’r sylw ond mae’n werth ymweld â strydoedd cul y dref a'r datblygiadau chwaethus ar lan y dŵr. Roedd y castell, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Edward y Cyntaf fel palas brenhinol a chaer filwrol, yn ganolbwynt i dref gaerog ganoloesol. Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl yma hefyd – 1,000 o flynyddoedd ynghynt adeiladont Gaer Segontium ar y bryn uwchlaw (mae'r sylfaeni yno hyd heddiw). Mae atyniadau eraill yn cynnwys, Rheilffordd Ucheldir Cymru sy’n rhedeg am 25 milltir i Borthmadog, Canolfan Hwylfan, Gelli Gyffwrdd a Gypsy Wood gerllaw. Mae Doc Fictoria ar lan y Fenai yn gartref i Galeri (canolfan celfyddyd gyfoes gyda theatr a sinema) a Celtica (canolfan celf a chrefftau).
Dinas Dinlle
Llanberis
Ble i ddechrau? Mae Llanberis yn llawn ddigon o atyniadau i gadw ymwelwyr yn brysur am wythnosau. Yn gyntaf, mae'n rhaid sôn am leoliad gwych y dref ar lan llyn ac wrth droed yr Wyddfa. Pan fyddwch chi wedi blino cerdded ar lan y dŵr – ‘does dim peryg o hynny ychwaith - ewch am daith ar ddwy reilffordd - Rheilffordd Llyn Llanberis a Rheilffordd yr Wyddfa. Mae’r ail un yn dringo bron at stepen drws Canolfan Ymwelwyr syfrdanol Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa. Mae yna ddigon i’w weld a digon i’w wneud ym Mharc Gwledig Padarn ar fin y llyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn dwyn atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Eryri tra bo Castell Dolbadarn yn mynd â chi’n ôl filoedd o flynyddoedd i oes tywysogion Cymru. Os nad yw hynny’n ddigon i chi, mae yma hefyd siopau crefft a chwaraeon dŵr, er bod y rhan fwyaf o’r bobl awyr agored yn dod yma i gerdded. Dilynwch y Llwybrau Treftadaeth hunan dywys yn Llanberis sy’n mynd â chi i lefydd gwefreiddiol o amgylch y pentref.