Bangor
Dinas fechan, fywiog a thref phrifysgol. Mae gan Gadeirlan Bangor wreiddiau hynafol - gellid olrhain y safle crefyddol hwn yn ôl i’r chweched ganrif.
Bydd Bangor yn dathlu 1500 o flynyddoedd yn 2025, sy’n nodweddu carreg filltir aruthrol gyda blwyddyn lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u cynllunio drwy gydol y flwyddyn.
Mae bob math o weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio i anrhydeddu hanes cyfoethog Bangor, ei bywiogrwydd heddiw, a’i dyfodol addawol. Bydd y dathliadau’n arddangos ysbryd y gymuned ac yn amlygu’r dreftadaeth a’r amrywiaeth sy’n gwneud Bangor yn lle unigryw ac arbennig.

Mae cyn Blas yr Esgob wedi cael ei ailwampio fel cartref newydd i’r oriel a’r amgueddfa a elwir yn Storiel. Dyma amgueddfa ac oriel sirol Gwynedd ac mae’n un o ddwy amgueddfa sy’n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Cyngor Gwynedd. Mae gan yr amgueddfa a’r oriel raglen fywiog o arddangosfeydd dros dro, cynhelir digwyddiadau arbennig yno ac mae yn yr amgueddfa arddangosfa barhaol o gasgliadau sy’n ymwneud â gwahanol agweddau ar fywyd yng Ngwynedd trwy’r oesoedd. Mae yno siop roddion hefyd.

Mae Pier Garth Bangor, sy'n adeilad hardd ac yn adeilad prydferth Gradd II ac yn 470m. Mae'n ail bier hiraf yng Nghymru ac eleni mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed a chafodd ei bleidleisio'n Pier y Flwyddyn 2022 gan Gymdeithas y Piers Cenedlaethol.
Ewch i weld Pontio, lleoliad i gynyrchiadau theatr, ffilm, cerddoriaeth, syrcas, dawns a chelfyddydau perfformio arloesol eraill.

Peidiwch ag anghofio ychwaith am Gastell Penrhyn, plasty’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a leolir mewn gerddi hardd ar gyrion y dref. Heb fod yn bell ychwaith mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, atyniad poblogaidd iawn i’r teulu a Zip World yn Chwarel Penrhyn, Bethesda sy'n llinell wib gyflymaf yn y byd.
Mae gan Fangor lawer o gyfleusterau hamdden yn cynnwys pwll nofio, canolfan chwarae, llwybrau cerdded a beicio.
Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Bangor yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map