Bala

Tref fechan yn ‘ardal y llynnoedd’ deheudir Eryri sy’n ganolfan awyr agored fawr ac yn enwog drwy’r byd am ddigwyddiadau megis canŵa dŵr gwyn, nofio, beicio a thriathlon. Ond nid oes rhaid i chi fod yn ironman i werthfawrogi’r Bala. Ceir apêl eang i’r arlwy o weithgareddau awyr agored, gyda dewis da o rai ysgafn ac anturus. Mae llawer o’r gweithgareddau wedi eu canolbwyntio ar Lyn Tegid sy’n 4½-milltir o hyd. Mae afon Tryweryn gerllaw hefyd yn ased dyfrol mawr, sydd hyd yn oed yn darparu dŵr gwyn dibynadwy yn ystod yr haf pan mae sawl afon yn isel.

Mae algâu gwyrddlas wedi ei ddarganfod mewn rhai mannau o Llyn Tegid

Gwaith Diogelwch ar Gronfa Ddŵr Llyn Tegid - Cau Llwybrau 

Maw Bala yn dref wych i gerddwyr. Mae’r llwybrau yn cynnwys trofeydd trefol a threftadaeth a thaith gerdded o gwmpas y llyn (gallwch hefyd deithio ar hyd ei lan deheuol ar drên stêm lein gul Rheilffordd Llyn Tegid). Mae yna le da i feicio hefyd gyda llwybrau beicio wedi eu harwyddo. Mae’r Bala yn gyforiog o ddiwylliant a hanes Cymreig lle mae atyniad Byd Mari Jones sy'n Llanycil yn adrodd hanes Mari Jones y ferch 15 oed a gerddodd 26 milltir dros y mynyddoedd i’r Bala i nôl Beibl Cymraeg gan yr arweinydd crefyddol y Parch Thomas Charles. Mae cysylltiadau tebyg yn parhau: mae canolfan weithgareddau Urdd Gobaith Cymru wedi’i lleoli yng Nglan-llyn gerllaw (lle gall grwpiau o deuluoedd aros hefyd).

Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Bala yna cliciwch y linciau isod.

Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map