Awydd Antur yn Llŷn ac Eifionydd?

Er bod copaon dramatig Yr Wyddfa a'i chriw yn aml yn dwyn y sylw i gyd, dim ond un bennod yn ein stori yw'r rhain. Mae Eryri yn ei chyfanrwydd yn eang iawn - dros 840 milltir sgwâr/2,146 km sgwâr, yn wir. Dyma ardal sy'n gyfoeth o brofiadau ac anturiaethau awyr agored.  

Yma, rydym yn taro golwg ar y rhan o Eryri sy'n cynnwys Pen Llŷn, Cricieth, Porthmadog a Bro Ffestiniog. Mae’n llawn mannau ysbrydoledig, gyda golygfeydd unigryw, gweithgareddau gwerth chweil a thoreth o fyd natur, bywyd gwyllt a diwylliant. Y peth gorau yw bod maint gweddol fychan y rhan hon o ogledd-orllewin Cymru yn golygu y gallwch weld cryn dipyn o'r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig, os ydych chi'n aros am wythnos neu ddim ond yn picio draw am benwythnos.  

Beth bynnag fydd eich dewis, bydd digonedd o anturiaethau bach a mawr ar gael. Ble arall allwch chi reidio ar y tonnau ar 'bodyboard' yn y bore a hedfan dros y dirwedd ar wifren wib yn y prynhawn?   

Yn ogystal â llwyth o weithgareddau egnïol, mae digonedd o gyfleoedd i gymryd pethau'n araf hefyd. Ymgollwch eich hun yn yr awyr dywyll, ewch yn agos at natur yn y ffordd fwyaf cyfeillgar ar eco-wyliau, crwydrwch ar draethau anghysbell, neu eisteddwch ar y lan gyda diod yn eich llaw a mwynhau'r golygfeydd o'r môr a'r machlud. 

Dyma rai awgrymiadau i chi.

Anturiaethau ar y creigiau 

Os ydych chi'n chwilio am antur, yna Blaenau Ffestiniog yw'r lle i fod. Arferai'r dref fod yn ganolbwynt i'r diwydiant llechi, ond bellach mae wedi cael bywyd newydd fel prifddinas antur Gogledd Cymru - gyda'i chwareli, ei mwynfeydd a'i llethrau o wastraff llechi, bellach yn gartref i weithgareddau lu. 

Mae Zip World Llechwedd yn cynnig arlwy hael o weithgareddau anturus. Gallwch grwydro yn y dirwedd arw mewn tryc byddin wedi'i ail-bwrpasu, dringo i uchder o 1,400 tr/426m uwchben y dirwedd ddiwydiannol arallfydol hon, cyn cael reid ar y wifren wib paralel pedwar person gyntaf yn Ewrop.  

Fel arall, mentrwch o dan y ddaear i roi cynnig ar gwrs antur heriol sy'n llawn pontydd a rhaffau tynn, neu i fownsio ar rwydi anferthol sy'n hongian uwchben yr hen geudyllau llechi. Os byddai'n well gennych gadw eich traed ar y ddaear, mae cwrs golff antur i'w gael yma 500tr/152m o dan yr wyneb.

Zip World Llechwedd Underground Golf

Am anturiaethau ar ddwy olwyn, ewch draw i barc beicio Antur Stiniog lle mae 14 trac lawr allt yn igam-ogamu drwy dirwedd greigiog y cyn chwareli.  Maent yn amrywio o'r llwybr Plwg a Phlu sy'n addas i ddechreuwyr, i lwybr Y Du, sy'n siŵr o'ch ysgwyd o'ch corun i'ch traed - dyma lwybr technegol garw fydd yn her wirioneddol i'r reidwyr mwyaf profiadol yn eich plith. Gorau oll, mae'r gwasanaeth cludo yn golygu y gallwch arbed eich egni ar gyfer y daith i lawr yr allt. 

Os nad yw hynny'n ddigon, mae digon o ddiwylliant a threftadaeth i'w gael yma hefyd. Mae Blaenau Ffestiniog yn rhan ganolog o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, un o Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO mwyaf newydd y DG.

O dan y môr a'i donnau... 

Mae'r dyfroedd godidog o amgylch Pen Llŷn yn ddelfrydol am anturiaethau ar y dŵr. Mae Pwllheli yn gartref i farina bywiog sy'n bwynt lansio ar gyfer pob math o weithgareddau morol, o badlfyrddio i gychod pŵer. Yma hefyd mae Plas Heli, yr Academi Hwylio Genedlaethol.  Gyda'i chartref mewn adeilad trawiadol ar lan y môr, dyma leoliad amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous ar y dŵr ac ar y lan. 

Plas Heli, Pwllheli

Fel y mae'r enw Saesneg yn ei awgrymu (Hell's Mouth), mae gan Borth Neigwl ym mhen gorllewinol Llŷn hanes dychrynllyd. Dros y blynyddoedd, mae'r tonnau gwyllt a'r cerrynt mawr wedi arwain at sawl llongddrylliad (cadwch olwg am olion morwrol yn pipian allan o'r tywod).   

Heddiw, mae'r traeth yn atynfa i syrffwyr a 'bodyboarders' gan fod ymchwydd pwerus y tonnau yn gymaint o her. Nid dim ond ar gyfer y byrddwyr profiadol yn eich mysg y mae hyn chwaith. Mae darparwyr lleol megis West Coast Surf yn Abersoch yn llogi offer ac yn cynnal gwersi rheolaidd i ddechreuwyr sydd am fentro i'r dŵr. 

Abersoch

Mae yna hwyl i'w gael 

Mae'r gamp gyffrous o hwylfyrddio (cyfuniad cyflym o syrffio a sgïo dŵr) yn arbenigedd yma yn Llŷn. Mae hyn yn arbennig o wir am Abersoch, lle mae'r bae cysgodol yn cynnig yr amodau perffaith i ddechreuwyr a reidwyr profiadol. 

Ar lan y môr... 

Mae digonedd o draethau a baeau prydferth ym Mhen Llŷn - rhai ohonynt yn enwog ac eraill yn cuddio'n dawel. Galwch draw i Gwt Tatws ger Tudweiliog - dyma siop, deli a chaffi unigryw a chroesawgar.  Mae cartref Cwt Tatws mewn eiddo eco-gyfeillgar uwchben traeth Porth Towyn, sy'n gilgant hynod o dywod wedi'i leoli rhwng pentiroedd glaswelltog.

Porthor (Whistling Sands)

Wrth gerdded rhywfaint o Borth Iago ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, fe ddowch i Borthor, sy'n un o uchafbwyntiau arfordirol eraill y penrhyn.  Mae'r olygfa yn siŵr o wneud argraff arnoch yn syth, ond nid dyma'r peth mwyaf diddorol am y lle hyd yn oed. Mae'r traeth yn cael ei alw yn 'Whistling Sands' yn Saesneg, diolch i strwythur anghyffredin ei ronynnau tywod, sy'n gwichian o dan eich traed ar ddyddiau cynnes - dyma ffenomenon na allwch ond ei brofi mewn un lle arall yn Ewrop.

Y blas sy'n cyfri 

Waeth lle fyddwch chi yn y rhan hon o Eryri, fe ddowch o hyd i ddewis o fwyd a diod fydd yn siŵr o dynnu dŵr o'ch dannedd. Os ydych chi'n mwynhau eich cwrw, gallwch fynd ar daith o amgylch bragdai Cwrw Llŷn yn Nefyn a Mŵs Piws ym Mhorthmadog er mwyn cael gweld sut maen nhw'n mynd ati i fragu eu cwrw. Peidiwch â phoeni, bydd digon o gyfle ar gael i chi flasu rhai o'u diodydd.

Cwrw Llŷn - Mimosa

Mae digonedd o siopau coffi i'w cael hefyd. Mae Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn (cyn bentref chwarel sydd bellach yn ganolfan iaith a diwylliant), yn gweini diodydd poeth a byrbrydau yn un o leoliadau arfordirol mwyaf trawiadol Llŷn.  

Hefyd, mae gennych gaffi newydd godidog yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Mae'r adeilad arian sgleiniog hwn - sydd ar ffurf draenog môr mawr (gargantuan sea urchin) - yn ychwanegiad llawn steil at oriel gelf hynaf Cymru. 

Nos a dydd 

Teithiwch i bellafoedd Llŷn ac ymlaen i'r cosmos gyda thaith i Ynys Enlli, y Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf i gael ei dynodi yn Ewrop. Mae'r ynys fechan hon i'w chanfod oddi ar benrhyn gorllewinol Llŷn, o dan awyr dywyll sydd bron heb ei chyffwrdd gan lygredd golau.  

Gall gwylwyr sêr aros yn un o fythynnod hunan-arlwyo clyd yr ynys er mwyn mwynhau un o'r sioeau gorau ar y Ddaear wrth iddi nosi ac wrth i'r nefoedd sgleinio gyda'i mantell ddi-rifedi o sêr.

Mae digon i'w weld ar Ynys Enlli yn y dydd hefyd. Mae'r ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, diolch i'r cyfoeth eithriadol o fywyd gwyllt sydd arni.  Mae'n enwog am drefedigaeth gref o 20,000 o balod Manaw, yn ogystal â phoblogaethau bywiog o adar y môr megis gweilch y penwaig, y fulfran wen a phalod.  Hefyd, efallai y gwelwch forloi gwyn yr Iwerydd yn torheulo yn y baeau creigiog, ynghyd â dolffiniaid a llamhidyddion yn llamu yn y moroedd gerllaw. 

Lleoliad, lleoliad, lleoliad 

Yn llechu ar ei benrhyn bychan ei hun ar ochr ogleddol Llŷn, mae pentref pysgota bychan Porthdinllaen yn lleoliad glan y môr prydferth, heb ei ail. Dim ond ar droed y gallwch gyrraedd yma, ac mae'r casgliad bychan hwn o adeiladau carreg wedi'u gosod ar hyd y traeth tywodlyd euraidd, ac mewn lle delfrydol i fwynhau golygfeydd sy'n ymestyn tuag at fynyddoedd Yr Eifl (bryniau caregog ar arfordir gogleddol Llŷn sy'n codi i dri chopa, Tre'r Ceiri, Garn Ganol a Garn Fôr) ac ymlaen at gopaon Eryri yn y pellter. 

Nefyn Golf Club © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales
© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2023) Cymru Wales

Mae Porthdinllaen hefyd yn gartref i dafarn enwog y Tŷ Coch, tafarn glan y môr sy'n gweini peintiau ac yn cynnig cyfleoedd i dynnu lluniau. Dafliad carreg o'r tywod, dyma dafarn sy'n cael ei disgrifio'n aml fel un o fariau glan y môr gorau'r byd. Dyma dipyn o ddweud, ond wrth i chi ymlacio gyda diod wrth i'r tonnau olchi ar y lan, mi fyddwch yn gwybod yn ddigon buan pam fod y dafarn hon yn llawn haeddu'r disgrifiad hwnnw.   

Am fwy o wybodaeth ar beth sy'n gwneud Llŷn yn lleoliad mor arbennig, ewch draw i Amgueddfa Forwrol Llŷn i ddysgu mwy am ei threftadaeth, ei hanes a'i diwylliant. Yn Aberdaron, ym mhen draw Llŷn, mae Canolfan Ymwelwyr Porth y Swnt yn ogystal â maenordy Plas yn Rhiw gerllaw.