Ar Antur yn Eryri trwy’r Tymhorau

Mae’r gwynt yn meinio a’r dyddiau’n byrhau, ond estynnwch am eich cotiau a dechreuwch gynllunio; mae antur ar droed yn Eryri’r hydref hwn. O drampolinio a golffio dan-ddaear, i chwarae dan-do neu deithio ar y trên, boed chi’n chwilio am wyliau hamddenol neu ddyddiau llawn dop i ddiddanu’r teulu, mae digon o ddewis yma.

Am brofiad unigryw fydd yn saff i aros yn y cof ewch ar eich pen i Labrinth y Brenin Arthur yng Nghorris. Gallwch basio’r diwrnod yn hawdd yn y ganolfan hon. Beth am ddechrau gyda taith gyfareddol o dan y ddaear i glywed rhai o chwedlau’r Brenin Arthur, cyn troi eich llaw at rai o’r gweithgareddau creadigol yng nghanolfan grefftau’r safle? O wneud pitsa siocled i baentio crochenwaith neu greu dodrefn, mae sesiynau ar gyfer pob oedran.

Chocablock, Canolfan Grefft Corris

 

Quarry Potter, Canolfan Grefft Corris


Gall y plant losgi tipyn o’u hegni yn y parc chwarae, tra’ch bod chi yn ymweld â’r siopau sy’n orlawn o gynnyrch Cymreig cyn gadael; y cyfle perffaith i brynu anrheg arbennig.

Os ydych chi’n chwilio am weithgaredd fydd yn gwneud i’r gwaed lifo yna Zip World yw’r lle i chi. Ers i’r safle agor eu gwifren wîb gyntaf dros Chwarel Penrhyn ym Methesda nôl yn 2013, maent wedi ennyn canmoliaeth ryngwladol ac yn mynd o nerth i nerth gan gynnig ystod eang  o brofiadau unigryw a chyffrous yn Eryri. Gyda thrampolinio a golffio tanddaearol, crwydro trwy geudyllau, gwibio ar wifrennau gwib neu ddringo ar gwrs rhaffau yng nghanol coed, mae hyn a mwy o ddewis yn ddigon i wneud i’ch calon guro! Trefnwch antur fythgofiadwy heddiw.

Bounce Below

Un o brif atyniadau eraill yn yr ardal yw’r rheilffyrdd. Beth am drefnu trip bythgofiadwy ar drên bach i ben yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru? Neu fwynhau tro ar Reilffordd Talyllyn, rheilffordd stêm gul sy’n rhedeg o Dywyn i Abergynolwyn a Nant Gwernol gan basio rhaeadr hyfryd Dolgoch? Mae trenau hefyd yn teithio’n hamddenol o amgylch Llyn Tegid, Llyn Padarn, ardal Corris a Phorthmadog, felly gadewch y car adref am y diwrnod tra’n mwynhau golygfeydd newydd o’r ardal trwy ffenest y trên bach.

Ffestiniog Railway


Ffestiniog Railway
Os ydi hi’n cau am law, does dim gwell na swatio mewn sinema gynnes gyda phecyn mawr o bopcorn. Galwch draw yn un o’r nifer o ganolfannau celfyddydol a sinemau yr ardal megis y Magic Lantern yn Nhywyn neu Theatr y Ddraig yn Abermaw; mae rhywbeth difyr ymlaen bob amser. Neu beth am blymio dan y tonnau a chwarae’n wirion o dan y dŵr? Gyda phyllau nofio ar draws Eryri o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog a Phwllheli, does dim angen mynd yn bell i ddod o hyd i bwll da. Cofiwch bod modd prynu tocyn diwrnod er mwyn manteisio ar nifer o’r gweithgareddau sydd ar gael eich canolfan hamdden gyfagos.

The Magic Lantern


Mae’r rheiny sy’n ceisio diddanu plant ifanc, bywiog yn siŵr o fod yn dra hoff o leoliadau chwarae dan do. Gallwch adael i’r plant redeg yn wyllt tra’ch bod chi’n cael munud bach o heddwch a phaned boeth. Mae digon o ddewis o’r llefydd hyn yn Eryri gan gynnwys Yr Hwylfan yng Nghaernarfon, Draig Bach ym Mlaenau Ffestiniog ac Y Goedlan ym mhentref Edern. Mae Gelli Gyffwrdd ger Caernarfon hefyd yn leoliad eco-gyfeillgar arbennig gyda gweithgareddau i’w mwynhau tu mewn a thu allan.

Beth am fentro ar antur dan-ddaearol yr hydref hwn? Mae’n syndod cynifer o anturiaethau tan-ddaearol sydd ar gael yn Eryri! Mae Gwaith Copr Sygun - dafliad carreg o Feddgelert - yn un ohonynt. Gallwch ddewis o blith y gweithgareddau sydd ar gael yma, o fynd ar antur dan ddaear i weld yr hen chwarel gopr, i grwydro trwy’r amgueddfa, rhoi cynnig ar chwilio am drysor neu fynd i’r parc chwarae. Os ydych chi yng nghyffiniau Harlech galwch draw yn Chwarel Llanfair. Profiad arbennig yw crwydro lawr trwy’r twneli a’r ceudyllau yma, a wnaed â llaw yng ngolau cannwyll dros ganrif yn ôl. Yma hefyd mae caws o hufenda De Arfon ym Mhen Llŷn yn cael ei aeddfedu yn ddwfn dan y ddaear - bachwch gosyn i fynd adref gyda chi. Gofiwch chi ni’n sôn am Labyrinth y Brenin Arthur? Ar yr un safle mae Corris Mine Explorers. Mewn welingtons a helmed a gyda fflachlamp mewn llaw, cewch fentro dan ddaear i archwilio mwyngloddiau llechi, gan ddilyn yn ôl troed glowyr llechi o oes Fictoria. Dyma brofiad arbennig sy’n siŵr o aros yn fyw yn y cof.

Corris Mine Explorers

Os am grwydro draw i dirlun trawiadol Pen Llŷn yn ystod tro’r tymhorau, cofiwch alw draw yn un o nifer o leoliadau difyr yr Ecoamgueddfa. Nid amgueddfa draddodiadol yw’r amgueddfa, ond yn hytrach gadwyn o leoliadau sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth llefydd. O Amgueddfa Forwrol Llŷn ym mhentref Nefyn, i hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn ger Llithfaen a draw i Borth y Swnt yn Aberdaron neu pen-draw’r-byd fel y caiff ei alw’n lleol, mae pob lleoliad yn cynnig mewnwelediad i hanes, iaith a diwylliant y gornel arbennig hon o’r byd.

Braf yw hel yn eich bol yr adeg hyn o’r flwyddyn hefyd. Be well na thamaid neu lymaid o gynnyrch lleol blasus? Gallwch dorri syched a mwynhau profiad unigryw wrth fynd ar daith mewn bragdy neu ddistyllfa yn yr ardal. O Fragdy Lleu ym Mhenygroes, i Fragdy Cwrw Llŷn yn Nefyn neu Ddistyllfa Aberfalls ger Abergwyngregyn, ble gallwch hyd yn oed roi cynnig ar ddistyllu gin eich hun!

Haul neu hindda, does dim esgus i fod yn segur yn Eryri dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Mae llond gwlad o weithgareddau a phrofiadau difyr yn aros amdanoch; ewch amdani gan weld y gorau o’r ardal arbennig hon. 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200