Anturiaethau ar deithiau tywys i'r teulu yn yr awyr agored

Nid rhywbeth i heicwyr heini a charwyr chwaraeon eithafol yn unig yw crwydro Eryri Mynyddoedd a Môr, prif leoliad twristiaeth antur y DU. Mae Eryri, Llŷn ac Arfordir Cambria yn croesawu teuluoedd hefyd, ac mae taith gerdded wedi ei thywys yn broffesiynol yn un o'r ffyrdd gorau i anturiaethwyr o bob oed brofi ein tirluniau a'n morluniau trawiadol. Nid sôn am ymwelwyr sy'n newydd i'r ardal yn unig yr ydym ni. Mae yna werthfawrogiad cynyddol ymysg ein cymunedau lleol ein hunain o'r ffaith fod yna gyfoeth o fannau i'w darganfod, reit ar stepen y drws.

Mae'r rhan hon o'r byd yn adnabyddus am ei heangderau, ei hawyr iach a'i rhyddid - yr holl bethau rydyn ni wedi eu methu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae cerdded yn gysylltiedig ag adnewyddu, llesiant, a'r cyswllt uniongyrchol â'r byd naturiol. Ac rydyn ni'n gwneud hynny'n haws, gan arwain y ffordd gyda dewis enfawr o deithiau tywys gan gwmnïau megis RAW Adventures. Mae'r cwmni wedi treulio blynyddoedd lawer yn arwain grwpiau ar bob math o weithgareddau awyr agored ledled y rhanbarth. Maent yn rhan o'r cynllun Llysgennad Eryri, felly gallwch fod yn saff y byddwch mewn dwylo diogel a phrofiadol ar deithiau cerdded sydd wedi eu teilwra'n arbennig ar gyfer teuluoedd. 

Daw Kate Worthington, sy'n gweithio i RAW Adventures, o Dde Lloegr yn wreiddiol. Daeth i Eryri i ddilyn ei hangerdd dros anturiaethau awyr agored, a dod o hyd i'r lle perffaith i'w merch dyfu i fyny. 

Fel rhiant, mae hi'n deall mor hanfodol yw teilwra'r profiad o gerdded i aelodau ieuengaf y criw. 'Mi fyddwn ni'n aml yn ceisio annog teuluoedd i beidio mynd ar y daith hir a maith i fyny'r Wyddfa, a chynnig opsiynau eraill, mwy addas,' meddai. 'Rydan ni wedi cael teithiau hyfryd trwy chwareli Dinorwig, i fyny at Glyder Fawr ac o amgylch Llanberis. Does yna ddim angen iddyn nhw lusgo eu plant i ben y mynydd pan fedrwch chi gael amser braf yn mynd i rywle cwbl wahanol.'

Raw Adventures - Kate Worthington

Y wlad guddiedig

Un o fanteision pennaf mynd i gerdded gyda thywysydd proffesiynol yw'r cyfle i weld rhai o dirweddau llai adnabyddus Eryri Mynyddoedd a Môr. Mae yna dynfa bwerus at gopa'r Wyddfa, ond nid yw'n fwy na rhan o brofiad llawer ehangach. 

Tra bod dringo'r Wyddfa yn rhan fawr o'u busnes, mae teithiau cerdded RAW Adventures i deuluoedd yn arddangos gwedd wahanol ar y rhanbarth. Mae'r daith o Gapel Curig i gopa creigiog Clogwyn Mawr (1,138 troedfedd / 347m) yn berffaith i anturiaethwyr ifanc, ac yn dal i gynnig golygfeydd godidog o Bedol yr Wyddfa. 

View from Moel Eilio
Goltgfa o Moel Eilio

Gallwch hefyd fentro i grib esmwyth Moel Eilio uwchlaw Llanberis, sy'n cyfuno tirwedd hawdd ei gerdded gyda nifer o fryniau glaswelltog i blant rowlio drostynt. Mae dringo'r Cnicht (a elwir weithiau yn Matterhorn Cymru) yn llwybr poblogaidd arall i deuluoedd, ac yn cynnwys sgramblau creigiog hwyliog o fewn pellter rhwydd a chryno.

Gwersi o fewn y dirwedd

Mae taith gerdded gyda thywysydd proffesiynol hefyd yn ffordd wych o ddysgu mwy am dirweddau Eryri Mynydd a Môr. Meddyliwch am y peth fel ystafell ddosbarth awyr agored, neu gyfle i ailddarganfod eich milltir sgwâr. 'Rydan ni'n ceisio agor llygaid pobl ar rannau o'u tirwedd nad ydynt, o bosib, yn ymwybodol ohonynt,' medd Kate. 'Gallai hynny gynnwys straeon a chwedlau hanesyddol, gwybodaeth am sut y ffurfiwyd y dyffrynnoedd a'r mynyddoedd, esbonio enwau lleoedd Cymraeg a thynnu sylw at fathau o garreg, megis cwarts a llechi. Gall hyn wedyn arwain at drafod hanes diwydiannau, pobl a chymunedau'r ardal. Yn ddelfrydol, mae pobl yn gadael wedi dysgu rhywbeth nad oeddent yn ei wybod o'r blaen.'

Ond nid rhywbeth er mwynhad y criw ifanc yn unig yw taith dywys deuluol. 'Mae rhai teuluoedd wedi nodi fod ymuno â grŵp gydag arweinydd arall sy'n oedolyn yn medru gwneud mwy i ennyn diddordeb y plant,' esbonia Kate. 'Mae'n caniatáu i'r rhieni ymlacio rhywfaint gan ei bod yn bosib na fydd y plant yn creu cymaint o drafferth ag y maen nhw gyda Mam a Dad.'