Anelu Aim Higher

Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4NT

Retail Mobile Number Mobile Number icon for Snowdonia retail page 07877 902624

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page aimhigher@outlook.com

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://www.mountain-hill-courses.co.uk/

Mae Anelu wedi ei leoli yn Eryri ac yn darparu amryw o weithgareddau awyr agored. Maent yn cynnig teithiau tywysedig trwy'r flwyddyn yn cynnwys ar Yr Wyddfa, cyrsiau cyfeillgar fel sgiliau bryn a mynydd yn ogystal â gweithgareddau mwy technegol fel dringo ar graig neu dan do ac abseilio. Maent hefyd yn cynnig sesiynau gwyllt grefft teuluol, teithiau natur, gwersylla gwyllt a theithiau hanesyddol. Perchennog Anelu yw Stephen Jones, sydd gyda cymhwyster Arweinydd Mynydd Haf a Gaeaf, Hyfforddwr Wylltgrefft a Hyfforddwr Dringo Creigiau. Mae'r holl staff sy'n gweithio i'r cwmni yn brofiadol, yn gymwysedig, wedi'u hyswirio ac mae ganddynt gymhwyster Cymorth Cyntaf. Mae enw y cwmni yn ddwyieithog - Anelu yw'r fersiwn Gymraeg wedi'i chyfuno â'r Saesneg: Aim Higher. Fel cwmni lleol sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru, mae eu holl staff yn lleol ac yn ddwyieithog sy'n dangos eu parodrwydd i fuddsoddi mewn pobl leol sydd yn ei dro yn cyfrannu at eu cymunedau lleol.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus