Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy
Ar ddechrau'r 19eg ganrif, roedd Conwy yn un o'r pysgodfeydd pwysicaf ym Mhrydain, gyda dros 4 cilo o berlau cregyn gleision yn cael eu gyrru at emyddion yn Llundain bob wythnos. Yma yn Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy, dysgwch am hanes pysgota am berlau yn y dref ers oes y Rhufeiniaid, a darganfyddwch coron pwy oedd yn cynnwys perl o Gonwy. Cewch weld sut mae cregyn gleision yn cael eu cynhaeafu a'u puro heddiw, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf.