Aerona
Mae holl gynhyrchion Aerona yn cael eu paratoi â llaw o aeron aronia a dyfir yn lleol ar eu fferm eu hunain gyda chynhwysion naturiol eraill sy’n rhydd o blaladdwyr neu wrteithwyr. Fe’u paratoir trwy ddulliau traddodiadol lle caiff blas y cynnyrch y flaenoriaeth bob amser!
Maent yn cynhyrchu diodydd alcoholig mewn potel – gwirod aeron Aronia (ar gael mewn poteli 5cl, 25cl a 50cl – 25% ABV) a gin â blas aeron Aronia (50cl – 40% ABV). Mae eu hamrywiaeth o gynhyrchion yn cynnwys siocledi, fferins jeli ffrwythau, jam jeli ffrwythau, sudd aeron, siytni aronia a betys a mwy…
Mae'r holl gynhyrchion ar gael i’w prynu o’r siop fferm neu trwy eu siop ar-lein.