Adra
Mae Adra’n arbenigo mewn anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes. O nwyddau i’r ty i emwaith, o fwyd lleol i gynnyrch ymolchi – mae popeth wedi’u gwneud yng Nghymru, wedi’u dylunio gan ddylunwyr o Gymru neu’n amlygu’r iaith Gymraeg.
Mae'n siop wedi'i lleoli ym Mharc Glynllifon tu allan i Gaernarfon, mewn hen felin goed sy'n adeilad wedi'i restru ac yn llawn cymeriad. Ewch am dro o amgylch y gerddi, dewch i'r siop yna ewch am baned a chacen i'r caffi cyfagos. Edrychwn ymlaen i'ch gweld!
Mwynderau
- Parcio
- Derbynnir Cŵn
- Croeso i bartion bws
- Arhosfan bws gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Toiled
- Croesewir teuluoedd
- Mynedfa i’r Anabl
- Toiledau Anabl
- Talebau rhodd ar gael