Addewid Busnes Gwynedd ac Eryri
Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwahodd busnesau i ddangos eu hymrwymiad i warchod y rhan arbennig yma o’r byd.
Gallwch wneud hynny trwy ddilyn y saith cam a restrir isod:
1. Cefnogi'n Lleol
Cryfhewch ein economi rhanbarthol trwy gyflenwi gan fusnesau lleol a hyrwyddo nwyddau lleol a thymhorol i'ch cwsmeriaid. Os oes cyfleoedd ystyriwch bartneriaethu gyda gwasanaethau eraill yn eich rhanbarth i gynnig profiadau unigryw?
Pethau i'w gwneud a llefydd i ymweld yn Gwynedd & Eryri

2. Dathlu traddodiadau a diwylliant lleol
Anogwch eich cwsmeriaid i ymgysylltu gyda threftadaeth ddiwylliannol unigryw Gwynedd ac Eryri. Gallwch wneud hyn trwy annog eich cwsmeriaid i brofi diwylliant yr iaith Gymraeg a rhannu eich gwybodaeth o fytholeg yr ardal a thalu teyrnged i draddodiadau modern, er enghraifft dathliadau lleol neu genedlaethol fel Dydd Gŵyl Dewi neu'r Eisteddfod Genedlaethol.
Darganfyddwch hanes a threftadaeth Eryri

3. Hyrwyddo teithio cynaliadwy
Helpwch ni i leihau'r pwysau ar ardaloedd poblogaidd drwy annog eich cwsmeriaid (a staff ble mae'n berthnasol) i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. Gallwch wneud hyn trwy hyrwyddo gwasanaethau fel Sherpa'r Wyddfa, busnesau llogi beiciau a'r gwasanaethau trenau i'r rheini sy'n teithio o bell.
Y cyngor gorau am ymweld ag Eryri

4. Lleihau effeithiau amgylcheddol eich busnes
Arweiniwch trwy redeg busnes sydd yn eco-amgylcheddol. Gallwch ddechrau trwy: Leihau defnydd plastig eich busnes a darparu ardaloedd gwastraff penodol i staff a chwsmeriaid ac annog eich cwsmeriaid i adael dim ar eu holau. Am arweiniad penodol - cyfeiriwch nhw at Addewid Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri.

5. Gwarchodwch eich cymunedau lleol
Anogwch eich cwsmeriaid i barchu trigolion, cymunedau ac ymwelwyr eraill - megis cadw lefelau sŵn a golau i lawr a pharchu eiddo a hawliau eraill. Gall eich cwsmeriaid wneud hyn trwy ddilyn yr arweiniad yn ein Addewid Ymwelwyr - e.e. gadael dim ôl, parcio'n gyfrifol, gadael giatiau fel ceir eu canfod a champio mewn ardaloedd dynodedig yn unig.
Addewid Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri

6. Annog diogelwch ein mynyddoedd ac arfordir
Cefnogwch ddiogelwch eich cwsmeriaid ac osgoi rhoi straen ar y gwasanaethau brys trwy ddarparu gwybodaeth cyfrifol am weithgareddau awyr agored. Mae Adventure Smart UK, y Cod Cefn Gwlad a'r Cod Morol yn lefydd gwych i ddechrau.

7. Arwain ar ddiwylliant positif o gyfathrebu digidol
Hyrwyddwch ymddygiad cyfrifol ddigidol trwy arwain profiadau cynaliadwy - e.e osgoi tagio digidiol mewn ardaloedd gor-brysur neu gymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus. Tagiwch ni yn eich teithiau cynaliadwy eich hunain trwy ddefnyddio hashnodau #Eryri, #Gwynedd, a #GwyneddAcEryriNi.
Sianel Instagram Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
