Aberdaron - Porth Meudwy

walking

Llwybr diddorol yn arwain o bentref Aberdaron i Borth Meudwy, ble gellir gweld pysgotwyr yn mynd a dod gyda'u cewyll traddodiadol. Mae cwch yn mynd â'r cyhoedd oddi yma i Ynys Enlli yn ystod yr haf. Mae golygfeydd dramatig o'r llwybr, yn cynnwys Ynysoedd Gwylan. Mae rhan o'r llwybr yn dilyn lôn gefn a dau ddyffryn bach coediog a chysgodol. Mae'n bosib ymestyn y gylchdaith hyd at Fynydd Mawr a Swnt Enlli.

Pellter: 4.8 km / 3 milltir
Amcan amser: 2 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Landranger 253
Parcio: Maes parcio Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol